Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-11-12 papur 3

Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru – Tystiolaeth gan y Gweinodog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

1.    Cyflwyniad

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am ei wahoddiad i roi tystiolaeth ar faterion ynghylch sector Ynni a’r Amgylchedd BETS sydd wedi’u codi yn sgil y dystiolaeth y mae’r Pwyllgor wedi’i gasglu hyd yn hyn yn ei ymchwiliad i bolisi ynni.

2. Pwysigrwydd y Sector Ynni a’r Amgylchedd

Mae’r Sector Ynni a’r Amgylchedd yn bwysig iawn i economi Cymru, ac mae’n cynrychioli cyfran fwy o gyflogaeth a gwerth i Gymru nag y mae i’r DU.  O’r chwe sector blaenoriaeth gwreiddiol yng Nghymru, y sector hwn welodd y cynnydd mwyaf mewn cyflogeion (33%) rhwng 2005 a 2009 ac, yn 2008, y nifer fwyaf o gwmnïau newydd.  Mae yna botensial ar gyfer buddsoddi £50biliwn mewn trydan carbon isel yng Nghymru dros y 10-15 mlynedd nesaf[1].

 

Cydnabyddir bod gan y Sector Ynni rôl bwysig ym mhob rhan o’r economi ehangach o ran creu economi gynaliadwy, sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a hyrwyddo agenda gwastraff isel, carbon isel mewn sectorau allweddol eraill. Mae’r rôl hon yn arwain at fanteision cymdeithasol-economaidd ehangach gan fod y sector yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfathrebu, cysylltiadau trafnidiaeth a seilwaith eiddo.

Mae’r Sector mewn sefyllfa dda i fanteisio ar fentrau’r DU, megis y Banc Buddsoddi Gwyrdd, Tariffau Cyflenwi Trydan a’r Fargen Werdd, a rhaglenni Llywodraeth Cymru fel ARBED ac Ardaloedd Adfywio.

Mae potensial mawr i’r Sector gan ei fod yn gallu darparu swyddi hirdymor, diogel, sgil uchel, sy’n cael eu talu’n dda. Yr her i Gymru yw cystadlu am fuddsoddiad mewn marchnad fyd-eang, lle mae mwy a mwy o reoliadau Ewrop a’r DU yn llesteirio cystadleuaeth mewn cyfnod economaidd anodd, ynghyd â’r angen i gadw cydbwysedd a sicrhau datblygu gwirioneddol gynaliadwy.

Ynni a’r Amgylchedd yw un o’r sectorau blaenoriaeth rwyf wedi’u nodi. Mae tîm penodol wedi’i neilltuo yn fy Adran i gefnogi a datblygu’r Sector, gan gymryd camau ar draws y Llywodraeth i greu amgylchedd busnes cadarnhaol drwy gofio pum prif egwyddor:

·         Buddsoddi mewn seilwaith ansawdd uchel a chynaliadwy;

·         Gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i wneud busnes;

·         Ehangu a dyfnhau’r sylfaen sgiliau;

·         Hyrwyddo arloesedd;

·         Targedu’r cymorth busnes a gynigiwn.

Sefydlwyd Panel y Sector Ynni a’r Amgylchedd ym mis Mawrth 2011, ac mae’n rhoi cyngor i mi am yr hyn y mae angen ei wneud i ofalu bod Cymru ar flaen y gad yn y symudiad tuag at economi gwastraff isel, carbon isel er mwyn sicrhau cymaint o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol â phosibl i bobl Cymru.

 

3. Technolegau Adnewyddadwy: Morol
         

Mae gennym gyfoeth o adnoddau ynni cynaliadwy yng Nghymru, yn enwedig gwynt, tonnau a’r llanw. Diolch i’r sector ynni adnewyddadwy[2], cynhaliwyd tua 13,000 o swyddi yng Nghymru yn 2009/10[3]. Mae’r nifer hwn wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda chynnydd o 58% mewn ynni adnewyddadwy rhwng 2004 a 2010. 

Mae marchnadoedd ynni’r môr, tonnau a’r llanw yn rhai sy’n datblygu ac yn amlwg ar gynnydd. Yn 2010 roedd y sector yn cyflogi 800 o bobl yn y DU. Ond yn ôl y rhagolygon ar gyfer 2020, bydd tonnau a’r llanw yn creu ~7,800 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, a 4,600 yn anuniongyrchol[4].

 

Eisoes mae Cymru wedi’i sefydlu ei hun yn ffigwr pwysig yn y farchnad hon. Yn Sir Benfro mae’r adnoddau gorau o ran tonnau (700km²) yng Nghymru. Bwriedir cynnal prosiect i arddangos ynni’r llanw (1.2MW) yn Swnt Dewi (Ramsey Sound) yn 2013, ac efallai 4 prosiect arddangos arall. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Ynni Morol Sir Benfro sy’n hwyluso’r gwaith o ddatblygu sector ynni’r môr yn lleol. Yn y Gogledd, mae cais am gydsyniad wedi’i gyflwyno ar gyfer prosiect £70m i osod 10MW o dyrbinau ffrwd llanw oddi ar arfordir gogledd-orllewinol Ynys Môn yn 2015. Byddai’n creu digon o bŵer ar gyfer dros 10,000 o gartrefi ar yr ynys.

Yn ddiweddar llofnododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Ystadau’r Goron er mwyn ymchwilio ymhellach i’r cyfleoedd i agor rhannau o arfordir Cymru i dyrbinau tonnau a’r llanw.


Eisoes mae Cymru yn allforiwr net o ran ynni adnewyddadwy, ac yn 2010 pennodd Llywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i gynhyrchu ddwywaith cymaint o ynni o ffynonellau adnewyddadwy ag a ddefnyddiwn erbyn 2025, allbwn ynni blynyddol o ryw 48 TWhr. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru arbenigedd academaidd a busnes o’r radd flaenaf yn y maes. Mae Gr
ŵp Gwyddor Môr y Bont ar Ynys Môn, er enghraifft, yn glwstwr morol annibynnol, di-elw sy’n darparu arbenigedd mewn gwyddoniaeth forol; ac mae SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy) yn fenter unigryw, y gyntaf yn y byd i gyfuno gwybodaeth ac arbenigedd amgycheddol ar y môr a’r tir[5].


Mae’r Sector hwn, felly, yn cynnig cyfleoedd sylweddol, yn enwedig lle bydd targedau uchelgeisiol yn hyrwyddo gweithgarwch dros y blynyddoedd i ddod. Er enghraifft, mae’n nod gan yr UE i ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy ar gyfer 20% o’i ynni erbyn 2020. Rydym yn disgwyl buddsoddiad sylweddol yn y Sector hwn yng Nghymru a ledled y byd. Felly bydd yna gyfleoedd penodol a sylweddol i greu swyddi mewn perthynas â datblygiadau mawr, Morglawdd Hafren er enghraifft. Mae hwyluso unrhyw gyfleoedd cysylltiedig yn rhan o waith fy swyddogion. 

Mae Panel y Sector wedi nodi bod ynni adnewyddadwy yn flaenoriaeth i’m Sector Ynni a’r Amgylchedd. Yn unol â hynny, mae prif swyddogion fy Adran yn ceisio nodi a hwyluso cyfleoedd i ddatblygu’r sector. Maent yn mynd ati i weithio gyda Llywodraethau Cymru a San Steffan ac ar draws asiantaethau, gyda rhanddeiliaid allweddol fel Ystad y Goron.

 

4. Datblygiadau Ynni Gwynt Ar y Môr

     Disgwylir i wynt ar y môr ddarparu cyfran fawr o dargedau ynni adnewyddadwy’r DU. Amcangyfrifwyd y bydd angen buddsoddi o leiaf £35biliwn erbyn 2020 a £100bn erbyn 2030 os yw’r DU i gyrraedd ei thargedau o ran ynni gwynt ar y môr.  

Mae ffermydd gwynt ar y môr oddi ar arfordir y Gogledd dan Drwydded Ystad y Goron Rowndiau 1 a 2, ond bydd Rownd Drwyddedau 3 yn dod â 2 (o 9) fferm wynt arall i ddyfroedd Cymru, sef Atlantic Array a fferm Môr Iwerddon.  Mae hyn yn rhoi cyfle i Gymru ddatblygu diwydiant gosod a chynnal a chadw tyrbinau er mwyn gallu cynnig gwasanaeth i’r ffermydd newydd. 

Caiff tua 1% o wariant cyfalaf fferm gwynt ar y môr ei wario ar weithgareddau porthladd wrth ei gosod, sef rhwng £10m a £15m ar gyfer fferm wynt 500MW. Yn achos datblygiad 500MW, buddsoddir £5m mewn gwaith porthladd a chynnal a chadw. Er enghraifft, ym mis Hydref 2011, dewiswyd Porthladd Mostyn yn ganolfan i gynnal a chadw fferm gwynt ar y môr, gan greu 100 o swyddi. Bydd prosiect RWE npower, sy’n werth £50miliwn, yn golygu adeiladu pont
ŵn a chanolfan bwrpasol ar gyfer 160 o dyrbinau gwynt, a osodir tua 10 milltir (16km) oddi ar yr arfordir ger Bae Colwyn a Llandudno.   

Er eu bod yn hanfodol er mwyn cynnal a datblygu’r sector Ynni a’r Amgylchedd yng Nghymru, mae porthladdoedd yn rhan hollbwysig o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth ehangach Cymru. Mae porthladdoedd yng Nghymru yn bwysig ar lefel datblygu economaidd ac yn asedau y mae angen eu datblygu er lles economi Cymru.

  

Roedd tua 3200 o bobl yn gweithio yn sector ynni gwynt ar y môr y DU yn 2011, sy’n nifer llawer uwch na’r 700 yn 2007. Comisiynodd Renewables UK Cambridge Econometrics i lunio tri senario ar gyfer y cynnydd yn y nifer a gyflogid yn y sector ynni gwynt ar y môr erbyn 2020: mae’r senario canolig o 23GW yn creu 29,700 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol a 17,500 yn anuniongyrchol[6]. Mae cyfle felly i Gymru ddarparu cyfran fawr o’r gweithlu hwn. Mae’n ddatblygiad a fydd yn galw am gryn hyfforddiant ac uwchsgilio mewn meysydd fel gweithredu systemau/peiriannau, cynnal a chadw ac adeiladu. Drwy feithrin gallu’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru, efallai y gall ein busnesau fanteisio hefyd ar gyfleoedd sy’n codi ledled y DU.

Mae Panel y Sector wedi nodi bod Ynni Gwynt ar y Môr yn flaenoriaeth benodol o ran ynni adnewyddadwy ac mae rhai o brif swyddogion fy Adran i wedi’u henwebu i ddatblygu’r maes. Unwaith eto, maent yn mynd ati i weithio gyda Llywodraethau Cymru a San Steffan ac ar draws asiantaethau gyda rhanddeiliaid allweddol. Ymhlith y gweithgareddau a drefnwyd hyd yma cafwyd digwyddiadau llwyddiannus ar gyfer y gadwyn gyflenwi ledled Cymru. Rydym hefyd wedi gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyngor sgiliau sector Sgiliau Ynni a Chyfleustodau i fodloni gofynion capasiti cadwyni cyflenwi Cymru.

Mae swyddog blaenllaw penodol hefyd wedi cael y dasg o ymchwilio i ofynion seilwaith strategol, gan gynnwys porthladdoedd, sy’n gysylltiedig â datblygu’r sector pwysig hwn sy’n tyfu. Mae hyn yn golygu trafodaethau agos gyda busnesau.

 

 Defnyddwyr Ynni Dwys

 

Mae Cymru yn elwa ar bresenoldeb cwmnïau allweddol hwnt ac yma ledled y wlad sydd nid yn unig yn gyflogwyr pwysig ond sydd wedi sefydlu perthynas â’u cymunedau. Mae’r cwmnïau hyn yn perthyn i wahanol sectorau diwydiant – cwmnïau olew a nwy, cemegolion, cynnyrch adeiladu, cynhyrchwyr papur ac, wrth gwrs, gwneud dur.

 

Ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, cefais gyfarfod â chroestoriad o’r defnyddwyr ynni dwys hyn ym mis Chwefror er mwyn deall yn well eu pryderon am y cynnydd parhaus ym mhris ynni.

 

Bydd fy swyddogion Ynni a’r Amgylchedd yn ymchwilio i sefyllfa cwmnïau megis Cwmni Dur Tata a defnyddwyr ynni mawr eraill ac yn cysylltu â nhw er mwyn cael gweld sut gellir delio â chostau ynni uchel a rheoli eu heffaith ar safleoedd penodol.

 

6. Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd BETS

Ar Banel y Sector Ynni a’r Amgylchedd mae chwech o bobl fusnes sydd ag arbenigedd ac enw da yn y sector. Mae’r Panel yn rhoi cyngor arbenigol i mi ar y cyfleoedd sydd o fewn y Sector a’r hyn sydd ei angen ar y Sector er mwyn helpu i ddatblygu a gweithredu polisïau. Mae’r Panel hefyd yn allweddol o ran rhoi cyngor ar y polisïau mae Llywodraeth Cymru yn eu datblygu a pholisïau eraill sy’n ymwneud â’r Sector Ynni a’r Amgylchedd yng Nghymru.

Mae rôl barhaus gan y Panel i’w chwarae i lywio mentrau eraill o ran datblygu economaidd, gan gynnwys datblygu Ardaloedd Menter a’n dull newydd o fasnachu a mewnfuddsoddi.

Mae gweithgarwch Tîm y Sector yn seiliedig ar faterion a chyfleoedd a nodir gan Banel y Sector a’r adborth ehangach gan fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys ein cwmnïau angori.

Mae fy Mhanel yn teimlo’n gryf bod angen i Gymru ddangos yn glir ei bod yn agored i fusnes a bod ganddi hunan-gred. Mae o’r farn bod angen i’r Llywodraeth roi arweiniad hirdymor, sefydlog a pholisi clir a chyson er mwyn ennyn ymddiriedaeth buddsoddwyr. Mae fy Mhanel o’r farn bod angen proses gynllunio a chydsyniad symlach, fwy atebol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Bydd arweiniad ac eglurder o’r fath yn ysgogi buddsoddi yn y sector preifat. 

7.  Tîm y Sector Ynni a’r Amgylchedd – Ffocws Cyflawni

     Mae fy swyddogion Ynni a’r Amgylchedd, drwy gydweithio â Phanel y Sector a thrwy gydweithio’n agos â busnesau, prifysgolion a phartneriaid yn y sector cyhoeddus, wedi datblygu fframwaith sy’n diffinio’r ffocws o ran datblygu economaidd i’r sector Ynni a’r Amgylchedd yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd y fframwaith hwn yn llywio gweithgarwch y tîm ac yn brosbectws ar gyfer hwyluso a hybu cydweithredu o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi.

Mae’r fframwaith hwn yn diffinio’r is-sectorau sydd, i bob golwg, â’r nifer fwyaf o gyfleoedd a swyddi yng Nghymru. Mae hefyd yn diffinio chwe elfen allweddol a fydd yn diogelu twf y sector. 

 

Nodwyd tri o’r rhain yn feysydd lle dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl yn dylanwadu ar bobl sy’n gwneud penderfyniadau ac yn hyrwyddo anghenion busnesau Cymru:

 

Dyma’r tri arall:

 

 

Mae’r Panel o’r farn bod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol er mwyn hwyluso twf busnesau domestig ac i sicrhau bod Cymru yn cael y gwerth mwyaf o brosiectau mawr yn nhermau creu swyddi a chaffael lleol.

Mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymyriadau penodol sydd wedi’u teilwra i sicrhau manteision sy’n gysylltiedig â’r blaenoriaethau a ddiffiniwyd gan y Panel. Ymhlith y gweithgareddau a’r ymyriadau mae: meithrin gallu’r gadwyn gyflenwi mewn ffyrdd penodol; helpu i ddatblygu sgiliau; cyllid grant drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar a systemau cyllido tebyg eraill; manteisio ar gyfleoedd ymchwil a datblygu sy’n benodol i’r sector; cymorth sy’n targedu ardal benodol, ee y De-orllewin a’r Gogledd-orllewin; yn ogystal â gweithgarwch mwy strategol-ddylanwadol megis ceisio dylanwadu ar fframweithiau rheoleiddio yng Nghymru a rhaglenni cyllido Ewropeaidd o 2014 ymlaen. Mae fy swyddogion hefyd yn mynd ati i weithio gyda Llywodraethau Cymru a San Steffan er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

 

8Cydweithio â pob lefel o lywodraeth


Mae fy swyddogion yn mynd ati i gydweithio er mwyn datblygu’r blaenoriaethau a ddiffinnir yn y fframwaith, a chysylltu’n rheolaidd ac yn agos â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig ym meysydd Dyfodol Cynaliadwy a’r Adran Addysg a Sgiliau. Mae cydweithio o’r fath yn hanfodol ac wedi profi’n llwyddiannus wrth nodi a datblygu’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phrosiectau mawr megis rhaglen Ynys Ynni Ynys Môn a Chorlan Hafren.


Dyma rai o’r prif feysydd lle rydym wedi cydweithredu hyd yn hyn:



[1] Chwyldro Carbon Isel - Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru 2010

 

[2] Diffinnir y sector yn un sy’n cynnwys biomàs, geothermol, hydro, ffotofoltäig, ymgynghoriaeth ynni adnewyddadwy, tonnau, y llanw a’r gwynt.

[3]http://bis.gov.uk/policies/business-sectors/low-carbon-business-oportunities/market-intelligence/market-data

[4] "Working for A Green Britain 2" Cambridge Econometrics July 2011: http://www.bwea.com/ref/reports-and-studies.

[5]http://www.seacams.ac.uk/

[6] "Working for A Green Britain 2" Cambridge Econometrics July 2011: http://www.bwea.com/ref/reports-and-studies.